#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-745

Teitl y ddeiseb: Mwy o ddarpariaeth ar gyfer chwaraeon moduro oddi ar y ffordd

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu mwy o gymorth drwy Gyfoeth Naturiol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer beiciau modur oddi ar y ffordd. Ymhellach, gofynnwn am i'r Cynulliad bennu cyfeiriad ar gyfer awdurdodau lleol a'r heddlu yn unol â Grŵp Moduron Oddi ar y Ffordd Cymru. Yn olaf, gofynnwn am i Weinidogion gyfarfod â rhai o'r bobl sy'n ymwneud â darpariaeth oddi ar y ffordd i drafod y cymorth a geisir gennym.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae’r defnydd o “feiciau modur oddi ar y ffordd” yn bwnc sydd wedi hollti barn yng Nghymru yn aml, gyda rhai o blaid ac eraill yn erbyn. O ganlyniad i hyn, mae nifer o’r rhai sy’n defnyddio ffyrdd yn gyfreithlon wedi cael eu pardduo, ac ni wahaniaethwyd rhwng y defnyddwyr cyfreithlon a’r rhai sy’n reidio’n wrthgymdeithasol.

Mae cerbydau oddi ar y ffordd yn werth miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i economi Cymru. Yn 2002, cynhaliodd yr Undeb Awtofeicio arolwg ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf ac amcangyfrifwyd bod 10,000 o feiciau a cherbydau oddi ar y ffordd yn cael eu defnyddio yn ardal y cyngor hwnnw. Mae busnesau lleol yn gweld cynnydd cyson bob blwyddyn yn y defnydd o feiciau. Yn achos y rhan fwyaf, ceisir ymhél â'r gamp yn gyfreithiol, ond mae’r ffaith bod cyn lleied o leoliadau, a’r gostyngiad yn nifer y cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig, yn golygu bod nifer gynyddol yn methu â chadw at y gyfraith. Yn y sefyllfa sydd ohoni, mae'r heddlu yn aml yn targedu defnyddwyr oddi ar ffordd, gan gynnwys y rhai sy'n ymddwyn yn gyfreithiol ac yn gyfrifol.

Mae Grŵp Moduron Oddi ar y Ffordd Cymru, sy'n cynghori'r Cynulliad, yn ogystal â phob un o'r 22 awdurdod lleol a'r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru, wedi dod i'r casgliad mai dull triphlyg o addysg, gorfodaeth a darpariaeth yw'r unig ffordd o roi stop ar weithgarwch anghyfreithlon. Er bod addysg a gorfodi yn digwydd yn rheolaidd, ymddengys mai ychydig iawn sy'n cael ei ddarparu ar gyfer defnyddwyr moduron oddi ar y ffordd. Ar hyn o bryd, yn ne Cymru, un trac motocrós sydd yn agored i'r cyhoedd. Mae hynny'n annigonol, ac ar gyfer beicwyr motocrós yn unig y mae'r ddarpariaeth honno. Mae llawer o'r cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig yn cael eu cau neu eu gwneud yn destun Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, ac mae mentrau i wneud darpariaeth yn cael eu hatal gan yr heddlu neu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Drwy greu mannau ar gyfer beicio modur oddi ar y ffordd, gellid lleihau yn aruthrol y defnydd gwrthgymdeithasol o feiciau modur. Ym Merthyr Tudful, creodd Cyfoeth Naturiol Cymru drac beicio mynydd pwrpasol a ddenodd 66,000 o ymwelwyr yn y flwyddyn gyntaf.

Y cefndir

Grŵp Llywio Moduro Oddi ar y Ffordd Cymru

Mae Grŵp Llywio Moduro Oddi ar y Ffordd Cymru (WORMS) yn cael ei weinyddu gan sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW). Mae'n cynnwys unigolion a sefydliadau sydd â budd yn y maes hwn, fel beicwyr modur, cynrychiolwyr awdurdodau lleol ac awdurdodau'r parciau cenedlaethol, ac eraill sydd â diddordeb. Mae'r grŵp yn cyfarfod i rannu profiadau ac arfer gorau mewn perthynas â thri phrif faes:

§    Gorfodi cyfreithiau presennol mewn modd effeithiol;

§    Darparu/rheoli cyfleoedd priodol; a

§    Hyrwyddo defnydd cyfrifol ac addysg.

Yn ôl gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r grŵp yn cwrdd sawl gwaith y flwyddyn. Fodd bynnag, mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet (gweler isod) yn dweud nad yw'r grŵp wedi cwrdd ers 2014.

Cilffyrdd Sydd ar Agor i Unrhyw Draffig

Hawliau tramwy cyhoeddus yw cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig. Maent ar agor i gerddwyr, beicwyr, marchogion, cerbydau a dynnir gan geffylau a cherbydau modur.

Mae Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn caniatáu i awdurdodau lleol gyfyngu ar y defnydd o briffyrdd, neu wahardd neu reoleiddio'r defnydd hwn (gan gynnwys hawliau tramwy), a hynny drwy ddefnyddio Gorchmynion Rheoleiddio Traffig. Gellir defnyddio gorchmynion parhaol, gorchmynion dros dro neu orchmynion arbrofol, a gellir eu cymhwyso drwy'r flwyddyn neu ar adegau penodol o'r flwyddyn.

Safbwynt Cyfoeth Naturiol Cymru o ran darparu ar gyfer beicio modur oddi ar y ffordd

Mae cynllun gweithredu Cyfoeth Naturiol Cymru ar y Cynllun Galluogi Hamdden a Mynediad Awyr Agored 2015 - 2020 (PDF 496.0 KB) yn cynnwys y datganiad a ganlyn (Saesneg yn unig):

We will continue to develop our position on motorised recreational activity on our own managed land … Encompassing our continuing work with the Motor Sports Association, Wales Rally GB etc, and the feasibility of new opportunities.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Ymgynghoriad ar fynediad at yr awyr agored

Yn 2015, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Bapur Gwyrdd o'r enw Gwella'r cyfleoedd i gael mynediad i'r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol (PDF 318KB). Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cwestiwn ynghylch sut y gallai deddfwriaeth daro cydbwysedd gwell rhwng gofynion defnyddwyr cerbydau modur, tirfeddianwyr a'r amgylchedd naturiol.

Yn ddiweddarach, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o'r ymatebion a gafwyd (PDF 123KB) i'r ymgynghoriad. Mewn perthynas â cherbydau modur, mae'n dweud:

Roedd y mwyafrif o'r ymatebion a oedd yn rhoi barn ar fynediad i  gerbydau modur, oddi ar y ffordd ac ar hawliau tramwy cyhoeddus, yn negyddol. Fodd bynnag, o'r rhain, nifer bach iawn a oedd yn gwahaniaethu rhwng defnyddio cerbydau yn gyfreithlon ac yn anghyfreithlon. Awgrymodd nifer y dylid gwahanu defnyddwyr cerbydau modur a defnyddwyr heb fodur, er enghraifft, cyfyngu'r defnydd i dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac ardaloedd coedwigaeth yn benodol. [Pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil]

Ar 13 Chwefror 2017, cyhoeddodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ddatganiad ysgrifenedig o dan y teitl 'Gwella cyfleoedd i gael mynediad at yr awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden'. Yn y datganiad, dywedodd y byddai'n cynnal ymgynghoriad pellach ar welliannau mewn meysydd allweddol yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd, gan gynnwys:

§    Sicrhau cysondeb o ran y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau, sut y cyfyngir ar weithgareddau a sut y cânt eu rheoleiddio; a

§    Gwella fforymau cynghori presennol a gwella sut y caiff hawliau a chyfrifoldebau mynediad eu cyfathrebu i bawb sydd â diddordeb. 

Ni chafwyd unrhyw arwydd ynghylch pryd y bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n cael ei gynnal.

Llythyr Ysgrifennydd y Cabinet

Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at y Pwyllgor ar 15 Chwefror 2017. Dywedodd fod moduro oddi ar y ffordd yn fater emosiynol iawn, a disgrifiodd y mater o ddarparu mynediad ar gyfer beiciau modur oddi ar y ffordd fel a ganlyn (Saesneg yn unig):

Provision in Wales is limited due to a number of factors, including opposition to planning applications for managed tracks and to the recording of rights of way for motorised users. However Natural Resources Wales (NRW) already provides access to many parts of its estate for use by a range of users, including motorcycllists and other off-road vehicles as long as they are road legal, taxed and insured as required.

Yn ogystal, gwnaeth y sylwadau a ganlyn:

§    Roedd Grŵp Llywio Moduro Oddi ar y Ffordd Cymru yn grŵp defnyddiol iawn a oedd wedi darparu cyngor ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ond nad oedd wedi cwrdd ers 2014;

§    Roedd y Grŵp wedi cyfrannu at y canllawiau ar reoleiddio moduro oddi ar y ffordd a gyhoeddwyd yn 2005. Nid yw'r gyfraith ar foduro oddi ar y ffordd wedi newid ers hynny, ond dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd ei swyddogion yn adolygu'r canllawiau er mwyn sicrhau eu bod yn gyfoes; a

§    Bydd ei swyddogion yn cwrdd â'r deisebwyr i drafod eu pryderon ac i wrando ar eu hawgrymiadau ar gyfer cynyddu darpariaeth ar gyfer moduro oddi ar y ffordd.

Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw'r mater hwn wedi cael ei ystyried eto gan y Cynulliad.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.